Cwestiwn: Ydy’ch partner neu unrhyw un arall yn y cartref yn eich brifo?
Cwestiwn: Ydy’ch partner neu unrhyw un arall yn y cartref yn eich sarhau, siarad i lawr â chi neu’n ceisio’ch rheoli?
Cwestiwn: Ydych chi’n teimlo dan fygythiad?
Cwestiwn: Ydy’ch partner / cyn bartner neu unrhyw un arall yn y cartref yn gweiddi neu regi arnoch fel eich bod yn teimlo mewn perygl?
Mae Cam-drin Domestig yn cael ei ddiffinio fel ‘unrhyw achos o ymddygiad bygythiol, trais neu gam-drin (seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol) rhwng oedolion sydd, neu sydd wedi bod yn bartneriaid personol, neu aelodau o’r teulu, heb ystyried rhyw neu dueddiadau rhywiol.’ Dyw hyn ddim yn ymwneud â cham-drin corfforol yn unig; mae hefyd yn ymwneud ag un person yn gormesu a rheoli’r llall.
Gall cam-drin ddigwydd waeth beth fo’r tras, dosbarth, diwylliant, oed, crefydd neu gred, rhyw, tueddiad rhywiol, anabledd meddyliol neu gorfforol. Mae Cam-drin Domestig yn cael ei drin yn ddifrifol iawn gan asiantaethau lleol. Fe alle nhw ddarparu cymorth a chyngor i chi.
Gallwch roi adroddiad am gam-drin domestig mewn nifer o ffyrdd gwahanol:
• Ddylech chi ddim ond deialu 999 mewn argyfwng, a all fod pan fo digwyddiad yn codi a’ch bod yn teimlo’n ofnus ac yn meddwl ei fod yn debygol y gallech chi neu rywun arall gael ei niweidio’n ddifrifol. Bydd eich galwad yn cael ei chofnodi gan yr heddlu.
• Gallwch hefyd roi gwybod am ddigwyddiad domestig trwy fynd i’ch swyddfa heddlu leol neu trwy gysylltu â swyddog o’r heddlu. Y flaenoriaeth gyntaf ar gyfer yr heddlu yw gwarchod y dioddefwyr ac unrhyw berson arall mewn perygl, yn cynnwys plant. Fe fyddan nhw’n cymryd camau positif a allai olygu cysylltu ag asiantaethau eraill i sicrhau lle mewn lloches neu arestio’r sawl sy’n cyflawni’r drosedd. Fe fyddan nhw’n cwblhau cofnod o ddigwyddiad domestig ac yn pasio’ch manylion ymlaen i swyddogion sy’n arbenigo mewn cam-drin domestig. Os ystyrir eich bod mewn perygl mawr neu fawr iawn o gam-drin pellach yna fe gynhelir cyfarfod ‘MARAC’ (Cynhadledd Asesu Risg Aml Asiantaeth) i ystyried ffyrdd o gynyddu’ch diogelwch.
• Gallwch hefyd roi gwybod am achos o gam-drin domestig ar ôl y digwyddiad; os ewch chi i’ch swyddfa heddlu lleol, fe wnân nhw gofnodi’r digwyddiad a chysylltu â’r swyddog cam-drin domestig.
• Gallwch hefyd roi gwybod i ‘Cymorth i Ferched’, Tai Hafan neu’r Fforymau Cam-drin Domestig ar draws y rhanbarth. Fe fyddan nhw’n cwblhau asesiad risg diogelwch \ rhoi gwybod i chi pa wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal. Gall staff mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys mewn ysbytai lleol yn ogystal â bydwragedd ofyn i gleifion a ydyn nhw wedi dioddef cam-drin domestig; fe allan nhw hefyd eu helpu a’u cyfeirio at wasanaethau addas.